Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs
Croeso i e-geisiadau fudd-daliadau tai a threth y cyngor
Cyflwynwyd Credyd Cynhwysol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar 5 Medi 2018 i'r rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio ac mae wedi disodli'r Budd-dal Tai. Os ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel ac os ydych angen help gyda'ch costau byw, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Dim ond os ydych yn cwrdd ag un o'r amodau canlynol y gallwch hawlio Budd-dal Tai:
- Os ydych wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
- Rydych yn rhan o gwpl lle mae un ohonoch wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
- Mae gennych dri neu ragor o blant ac fe'ch cynghorwyd i hawlio Credyd Treth ar ôl 5 Medi 2018. Fodd bynnag, os ydych wedi bod yn derbyn Credyd Cynhwysol o fewn y chwe mis diwethaf neu yn gwneud cais newydd fel rhiant unigol o fewn un mis o fod yn bartner ar hawliad Credyd Cynhwysol ar y cyd, rhaid i chi adennill Credyd Cynhwysol ac nid Budd-dal Tai.
- Os ydych yn byw mewn rhai mathau o letyau â chymorth.
Os nad ydych yn bodloni unrhyw un o'r amodau uchod, rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Cyn i chi ddechrau eich cais
- Gellir defnyddio'r ffurflen hawlio hon i hawlio Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, neu'r ddau. Cofiwch, mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Budd-dal Tai ar gyfer rhan fwyaf o bobl. Dim ond os ydych yn cwrdd ag un o'r amodau a restrir uchod y gallwch hawlio Budd-dal Tai. Os byddwch yn gwneud cais ac nad ydych yn bodloni un o'r amodau hyn, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
- Arbedwch eich ffurflen yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofnodi Rhif Adnabod eich Cais yn ofalus a'ch Cyfrinair. Ni fyddwch yn gallu ail-lwytho eich cais hebddynt ac ni fyddwn yn gallu eu darparu i chi gan na chofnodir y rhain yn ein systemau.
- Os nad yw'r ffurflen hon yn gweithio'n gywir ffoniwch 01443 864099. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 01443 866567. Oriau'r swyddfa yw dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5pm a ddydd Gwener 8.30am i 4.30pm.